Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Mehefin 2017
Amser: 08.30 -
08.59
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC David J Rowlands AC Ann Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd |
Cytunwyd ar y cofnodion ar gyfer y cyfarfod gan y Pwyllgor i'w cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y ddadl fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddwyn ymlaen y ddadl nesaf ar Gynnig Deddfwriaethol Aelodau o 12 Gorffennaf i 5 Gorffennaf, gan fod Dadl Aelod Unigol eisoes wedi'i threfnu ar gyfer 12 Gorffennaf.
· Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i aildrefnu'r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 5 Gorffennaf 2017 -
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar gais gan y Pwyllgor Deisebau i gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y ddeiseb 'Amddiffyn Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru', sydd wedi cyrraedd 5383 o lofnodion. Dyma'r cais cyntaf o'r fath o dan y broses newydd a gytunwyd gan y Pwyllgorau Busnes a Deisebau yn gynharach eleni. Cytunwyd dros dro i drefnu'r ddadl ar gyfer 12 Gorffennaf.
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes yr adroddiad terfynol ar ddiwygio Rheolau Sefydlog mewn perthynas â phroses y gyllideb. Byddai'r adroddiad yn cael ei osod y diwrnod canlynol, ochr yn ochr â chynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog ac i gytuno ar y protocol a gytunwyd rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Pwyllgor Cyllid. Bydd y ddau yn cael eu hychwanegu at yr agenda ar gyfer y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher nesaf.
Trafododd y Rheolwyr Busnes gynigion ar gyfer treialu strwythur dadl newydd a chytunwyd:
· i ddileu'r gofyniad bod y dogfennau ar gael i'r Ysgrifennydd Gwladol ar yr un pryd ag i Aelodau, ac i ddisodli'r darpariaethau ynghylch cyfranogiad yr Ysgrifennydd Gwladol gyda darpariaeth gyffredinol y gall y sawl nad ydynt yn Aelodau gymryd rhan mewn trafodion.
· i ddileu'r gofyniad yn Rheol Sefydlog 11.21(i) bod amser ar gael bob blwyddyn i drafod rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, a chaniatáu i'r llywodraeth a/neu'r gwrthbleidiau i drefnu dadl ar y mater os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
· i ofyn am ragor o wybodaeth am yr arfer yn yr Alban a Gogledd Iwerddon o drafod rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, yn absenoldeb gofynion Rheolau Sefydlog yno.
· i dreialu strwythur newydd ar gyfer rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru cyn toriad yr haf er mwyn rhoi proffil uwch i'r ddadl yn y dyfodol, gyda'r bwriad o newid y Rheolau Sefydlog yn y tymor hwy.
Nododd y Llywydd ei llongyfarchiadau i'r Dirprwy Lywydd, a dderbyniodd Medal Eiriolaeth James M Shannon y Gymdeithas Gwarchod Tân Genedlaethol yr wythnos diwethaf.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'r papur ar y swydd wag o ran cadeiryddiaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf.